Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Mae Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, wedi cyhoeddi'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ar blant a phobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEETs).
Dywedodd Mr Millar:
"Rwy'n croesawu cyhoeddi'r adroddiad hwn. Mae'n amlwg y bu cynnydd o ran lleihau nifer y bobl ifanc 16-18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
"Fodd bynnag, rwy'n pryderu nad yw Llywodraeth Cymru, er gwaethaf y cynnydd a wnaed o ran lleihau nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, yn gallu asesu a yw ei pholisïau yn rhoi gwerth am arian, ac yn pryderu bod y Llywodraeth wedi datblygu ei dull gweithredu heb asesu'r costau gweithredu mewn modd priodol ymlaen llaw.
"Yn awr, mae angen i'r Llywodraeth weithredu argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol yn gyflym a throi ei sylw at bobl ifanc 19-24 oed, a hynny er mwyn sicrhau mwy o eglurder am y modd y rhoddir cymorth i bobl yn y grŵp oedran hwn.
"Bydd y Pwyllgor yn trafod yr adroddiad hwn yn ei gyfarfod ar 15 Gorffennaf."
Nodiadau i olygyddion
Mae'r adroddiad llawn ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru
Mae rhagor o wybodaeth am y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gael yma.